Loading page content…
Loading page content…
Daw’r ‘Cytundeb Tai â Chefnogaeth Gogledd Cymru’ rhanbarthol presennol i ben ar 31 Mawrth 2027.Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel y ‘Corff Arweiniol’ / ‘Comisiynydd Arweiniol’ (yn gweithredu ar ran: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cyngor Gwynedd; Cyngor Sir Dinbych; Cyngor Sir y Fflint; Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (‘y Partneriaid Comisiynu’)) ar y Gwahoddiad i Dendro (ITT) ar gyfer ‘Cytundeb Tai â Chefnogaeth Gogledd Cymru (2027)’ rhanbarthol newydd a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2027.Bydd ‘Cytundeb Tai â Chefnogaeth Gogledd Cymru (2027)’ yn canolbwyntio ar brif egwyddorion Tai â Chefnogaeth a bydd yn ceisio hyrwyddo cefnogi unigolion i fyw mor annibynnol â phosibl.Yn yr amser cyn cyhoeddi’r ITT, bydd y Partneriaid Comisiynu yn cynnal ‘Cyfarfod â’r Prynwr’ a sesiynau ymgynghori / ymgysylltu eraill gyda darparwyr Tai â Chefnogaeth. Cyhoeddir manylion y rhain, ynghyd â manylion sut i gofrestru i fynychu'r sesiynau, ar wefannau ‘Gwerthwch i Gymru’ a ‘Dod o Hyd i Dendr’, a thrwy rwydweithiau lleol maes o law. NODWCH: Mae'r digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun 8 Mehefin 2026 rhwng 1
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →