Loading page content…
Loading page content…
Cartref gofal preswyl 32 ystafell wely yw Dolwen a adeiladwyd yn y 1960au. Mae’n ei chael yn anodd diwallu’r anghenion cymhleth sydd gan ddinasyddion sydd angen gofal preswyl. Pwrpas y prosiect yw darparu eiddo addas i’r diben sy’n fodern a hygyrch ac sydd a digon o le ar gyfer darpariaeth bresennol a darpariaeth yn y dyfodol. Bydd yn defnyddio technoleg ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial. Bydd mewn lleoliad da i ddarparu gofal yn nes at adref a diwallu anghenion iechyd a gofal pobl leol gan gynnwys anghenion heb eu diwallu, h.y. darpariaeth i henoed bregus eu meddwl, a chefnogi darpariaeth gwasanaeth yn yr adeilad ei hun ac yn y gymuned leol. Ar hyn o bryd, mae angen rhoi sylw i’r materion canlynol yng nghartref Dolwen - Ystafelloedd bach sy’n cyfyngu ar allu’r darparwr gwasanaeth i ddiwallu anghenion y preswylwyr, er enghraifft, mae ystafelloedd sy’n addas ar gyfer teclynnau codi, ond nid yw hyn yn wir trwy’r cyfleuster i gyd. Mae’r cyfyngiad hwn yn cyfyngu ar bwy ellir darparu llety iddynt, yn dibynnu ar eu hanghenion. - Nid oes gan yr un ystafell en-suite, ac nid ydynt yn cynnig gofod byw digonol, na’r cyfleusterau a ddisgwylir gan safonau modern. - Mae’r darparwr gwasanaeth
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →