Loading page content…
Loading page content…
A services contract from Flintshire County Council, worth £1,570,000. Below: what it involves and how to write a winning bid for it.
Rydym yn chwilio am gyflenwyr i gyflawni contractau Cyflogaeth Lleoliad â Chymorth Unigol yn y sector cyflogadwyedd yn rhan o Raglen Cysylltu â Gwaith Gogledd Cymru, yn benodol yn Sir y Fflint. Bydd y contractau yn golygu cefnogi pobl ag anableddau sydd eisiau gweithio i ganfod cyflogaeth gynaliadwy yn lleol. Mae Lleoliad â Chymorth Unigol yn integreiddio cefnogaeth â chyflogaeth ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd, a gwasanaethau cymorth eraill. Yn ddelfrydol bydd yr integreiddio yma’n digwydd ar lefel gorfforol, drwy gydleoli a pholisïau eraill, lle y bo’n briodol. Mae Lleoliad â Chymorth Unigol wedi cael ei ddefnyddio gan feysydd sy’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyflawni rhaglen ‘Lleoliad â Chymorth Unigol mewn Gofal Sylfaenol’ i gefnogi unigolion sydd â chyflyrau iechyd a/neu iechyd corfforol ysgafn i gymedrol. Bydd Cysylltu â Gwaith yn defnyddio ac yn ymestyn ar y dull a gymerwyd gyda Lleoliad â Chymorth Unigol mewn Gofal Sylfaenol. Er y bydd Cysylltu â Gwaith yn cyd-fynd â darpariaeth Lleoliad â Chymorth Unigol presennol ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl difrifol [IPS-SMI] a Lleoliad â Chymorth Unigol Dibyniaeth ar Alcohol a Chyffuriau
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →