Loading page content…
Loading page content…
A services contract from Cyngor Gwynedd, worth £580,728. Below: what it involves and how to write a winning bid for it.
Hysbysiad Ymgysylltu a’r Farchnad Gynnar (UK2) - Gwasanaeth ‘Galw Mewn’ i Bobl Ifanc yng Ngwynedd DISGRIFIAD Mae Tîm Comisiynu Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd yn bwriadu cynnal ymarfer ymgysylltu â’r farchnad cyn cyhoeddi ymarfer caffael ffurfiol ar gyfer gwasanaeth ‘Galw Mewn’ i bobl ifanc ar draws y Sir. Bwriad yr ymarfer hwn yw: • Rhoi gwybodaeth gynnar i ddarpar ddarparwyr ynghylch y gofynion arfaethedig • Casglu adborth ar ddyluniad, cwmpas a model darparu’r gwasanaeth • Deall gallu a chynhwysedd y farchnad • Archwilio dulliau arloesol o gyflawni nodau’r gwasanaeth Bydd y gwasanaeth yn cael ei ariannu drwy’r Grant Cymorth Tai (GCT) gyda’r prif nod o atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc drwy ymyrraeth gynnar ac ystyrlon. SESIWN YMGYSYLLTU Â’R FARCHNAD: Dyddiad: 10fed o Fehefin 2026 Amser: 2:00pm Lleoliad: Siop Gwynedd, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE Yn ystod y sesiwn: • Cyflwyniad ar y gwasanaeth a’r manyleb arfaethedig • Cyfle i ofyn cwestiynau • Trafodaethau 1:1 (steill ‘syrjeri’) gydag aelodau o’r Tîm Comisiynu Noder: Rhaid cadarnhau presenoldeb ymlaen llaw drwy gysylltu â Jen Johnson i archebu lle. Mae’r ymarfer hwn yn wirfoddol
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →