Loading page content…
Loading page content…
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu caffael Gwasanaeth Galw Mewn i Bobl Ifanc ledled y sir ar gyfer unigolion 16-24 oed sy'n ddigartref, mewn perygl o ddigartrefedd, neu sy'n gwynebu anawsterau sy'n ymwneud â thai. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ariannu drwy'r Grant Cymorth Tai ac yn darparu cymorth hygyrch, hyblyg ac ymyrraeth gynnar gyda'r nod o atal digartrefedd, hyrwyddo sefydlogrwydd tai a gwella llesiant. Disgwylir i'r darparwr llwyddiannus gyflwyno cyfuniad o gymorth wyneb yn wyneb a chymorth digidol ar draws Gwynedd, gan sicrhau mynediad teg i bobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau trefol a gwledig. Bydd y gwasanaeth yn gweithredu fel darpariaeth galw mewn mynediad agored, gan gynnig cyngor sy'n ymwneud â thai, cymorth ymarferol, arweiniad a chyfeirio at wasanaethau ehangach. Bydd gofyn i ddarparwyr ddangos profiad o weithio gyda phobl ifanc fregus a'r gallu i ddarparu gwasanaeth sy'n ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar egwyddorion Amgylchedd Seicolegol Gwybodus (PIE). Disgwylir i'r contract gychwyn ar 1af o Rhagfyr 2026 am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, gyda'r opsiwn i'w ymestyn, yn amodol ar berfformiad, adolygiad gwasanaeth ac argaeledd cyllid. Bydd gofyn i dendrwyr ddangos ychw
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →