Loading page content…
Loading page content…
Mae Adnodd yn un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru, ac mae’i gylch gwaith cyfredol yn para tan 2026. Rydyn ni’n arwain ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn y Gymraeg a’r Saesneg i ysbrydoli addysgu a dysgu’r Cwricwlwm i Gymru, a’r rheini’n adnoddau y gellir eu haddasu ac sy’n hawdd eu defnyddio. Ein gweledigaeth ni yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fo’u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da, a’r rheini’n tanio’u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu. Yn unol â’n llythyr cylch gwaith, rhaid i Adnodd sicrhau bod adnoddau perthnasol ac amserol, ynghyd â deunyddiau ategol, ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar yr un pryd, i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau. I sicrhau ein bod ni’n adlewyrchu ac yn diwallu anghenion y sector addysg a rhanddeiliaid allweddol; yn sicrhau gwerth am arian; ac yn gwneud y defnydd gorau o’r arbenigedd, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd ar gael yng Nghymru, a’r tu hwnt, rydyn ni’n awyddus i greu Fframwaith agored a hwnnw’n cynnwys cyflenwyr; crewyr cynnwys creadigol; darparwyr yn y maes ymchwil, data a gwerthuso; ac ymgynghorwyr o’r sector addysg a’r tu hwnt. Bydd Adnod
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →