Loading page content…
Loading page content…
(An English version is provided following the Welsh version.) Mae'r hysbysiad hwn yn cael ei gyhoeddi i hysbysu'r farchnad o ymarfer ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad gan yr awdurdod contractio. Gwahoddir cyflenwyr i gymryd rhan yn yr ymgysylltiad hwn a darparu gwybodaeth berthnasol am ddatrysiadau sydd ar gael a gallu'r farchnad. Mae Cyngor Gwynedd yn edrych ar arloesedd yn y farchnad cyn caffael systemau cynadledda newydd o fewn dwy o'u Siambrau Cyngor. Nod hanfodol y systemau newydd fydd hwyluso cyfarfodydd hybrid effeithiol a chynaliadwyedd yn y dyfodol, trwy ddull system gyfan, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae angen i'r system alluogi cyfarfodydd hybrid di-dor (wynebol ac o bell), sicrhau hygyrchedd a chynhwysiant, darparu profiad clyweledol o ansawdd uchel i bob cyfranogwr a recordio a ffrydio cyfarfodydd cyhoeddus yn fyw a chynorthwyo cyfieithu ar y pryd a hawliau pleidleisio aelodau. Mae angen i system y Siambr hefyd gefnogi gwneud penderfyniadau tryloyw, gyda phleidleisio integredig mewn amser real. Enghraifft o gyfarfod hybrid y Cabinet yn cael ei we-ddarlledu - https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/webcast
BidWriter drafts your responses from your company profile, scores them against the marking scheme, and tracks your whole pipeline. Free to start — no card needed.
Start free →